Cerdd yr Wythnos - Haf Llewelyn (Penllyn)
Telyneg Haf Llewelyn (Penllyn) ar y testun 'Datgloi' yw Cerdd yr Wythnos o'r Talwrn rhwng Penllyn ac Ysgol Farddol Yr Holl Fyd
Methu pasio'r lle wnes i,
a minnau heb fwriad gwneud dim ar fore'r Pasg
ond dilyn y ffordd heibio'r tro.
Cip sydyn trwy'r ffenestr, dyna'i gyd -
a dacw blentyn yn sipian mint imperial
a'i Nain yn canu am waed a chroes a choron ddrain.
Dim ond atgof hiraethus, fel bydd rhywun,
a minnau'n gwenu - mor fydol, ddoeth.
Nes i sŵn y glicied
sgrialu amheuon hyd styllod y llawr,
heibio corneli'r meinciau a'r tyllau pryfaid,
i greu cynnwrf trwy ddalennau llychlyd y beibl mawr,
a siffrwd rhwng y petalau gwyw -
cyn setlo'n nodau lleddf rhwng y distiau.
Trof yn ôl am y ffordd a heibio'r tro,
a blodau'r ddraenen ddu yn lludw
hyd y cloddiau.
Haf Llewelyn





