Main content
Y Llewod Cochion v Dros yr Aber - Cerdd yr Wythnos
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Ffatri
Riliau. Riliau o rywle
yn dod o frecwast tan de,
hyd yr hwyr, i’m ffôn. A drwg
y diawliaid? Dod i olwg
y maent yn yr oriau mân:
lovelife â’r riliau aflan
fesul eiliad sgroliadwy
yw penyd fy mywyd mwy.
Daw’r wawr. Daw riliau di-ri,
riliau i fy rheoli,
a’u sothach sy’n ffars weithiau.
Mwy na hyn, rwy’n eu mwynhau.
Rhys Iorwerth 10
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Y Talwrn
![]()
Cerdd yr Wythnos - Steffan Phillips (Twtil)
Hyd: 00:17
![]()
Cerdd yr Wythnos - Ifor ap Glyn (Caernarfon)
Hyd: 01:10
![]()
Cerdd yr Wythnos - Nanw Maelor (O Bob Cwr)
Hyd: 00:18
![]()
Glannau Teifi v Y Cŵps - Cerdd yr Wythnos
Hyd: 00:11





