'Pawb yn y pentre' wedi dychryn' ar ôl tân difrifol

Mae cymuned yng Ngwynedd wedi dod at ei gilydd i gefnogi teulu sydd wedi colli eu cartref mewn tân.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i dân mewn tŷ ym Methel, ger Caernarfon ddydd Mawrth.

Dywedodd Hannah Hughes, sydd o Fethel, bod y pentref i gyd wedi cael sioc o'r hyn ddigwyddodd.