Cymeradwyo cynllun ynni hydro dadleuol yn Eryri o drwch blewyn

Fe gafodd y cais ar gyfer Rhaeadr y Cwm ei gyflwyno i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yng Ngorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi cymeradwyo cynllun trydan dŵr dadleuol ym Mro Ffestiniog.
Yn 2024 cafodd cais cynllunio ei gyflwyno ar gyfer datblygiad 600 cilowat a fyddai'n creu digon o drydan ar gyfer 700 o gartrefi.
Mewn cyfarfod fore Mercher, cafodd y cais ei ganiatáu o drwch blewyn, wrth i aelodau ddilyn argymhelliad swyddogion o wyth pleidlais i saith.
Dywedodd y brodyr sydd y tu ôl i'r fenter, a sy'n ffermio yn ardal Y Bala eu bod yn "falch iawn" bod y cais wedi ei gymeradwyo, ar ôl "proses hir a chymhleth".

Dŵr yn syrthio i lawr y rhaeadr
Bwriad y datblygiad yn ardal Rhaeadr y Cwm yw defnyddio grym afon Cynfal ger Llan Ffestiniog drwy godi cored – neu weir dam.
Ar adegau pan fo digon o lif byddai hyd at 70% o'r dŵr yn cael ei ddargyfeirio o'r rhaeadr mewn peipen danddaearol.
Ar ôl mynd drwy'r tyrbin byddai'r dŵr yn dychwelyd wedyn i Afon Cynfal ar waelod y rhaeadr, gyda weiren arall dan ddaear yn cario'r trydan i'r grid.
Roedd y cais wedi denu bron i 1,600 o wrthwynebiadau - yn eu plith rhai grwpiau amgylcheddol fel Cymdeithas Eryri ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.
Yn wreiddiol roedd disgwyl penderfyniad yn gynharach eleni, ond roedd oedi pellach wrth i Lywodraeth Cymru ystyried os oedd y cais o bwys cenedlaethol.
Eryri: Cyflwyno cynllun ynni hydro yng Nghwm Cynfal
- Cyhoeddwyd22 Medi 2024
Oedi penderfyniad ar gynllun ynni hydro dadleuol yn Eryri
- Cyhoeddwyd21 Ionawr
Er bod Cyngor Tref Ffestiniog wedi cefnogi'r cais yn wreiddiol, galwodd y corff am ei wrthod ar sail "bygythiad i un o'r rhaeadrau mwyaf eiconig yn Eryri a safle bywyd gwyllt sydd wedi'i warchod yn arbennig".
Yn wahanol i Gyngor Tref Ffestiniog mae Cyngor Cymuned Ysbyty Ifan - sydd ond dafliad carreg i ffwrdd - yn parhau i gefnogi'r cynllun, drwy ddadlau mai "dyma'r mathau o brosiectau sydd angen mwy ohonynt".
Ychwanegon nhw y byddai "o fantais fawr i'r targed o gyflawni Cymru sero net ac yn fantais i gael ynni rhatach yn y dyfodol trwy ddefnyddio adnoddau naturiol".
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, fel rhan o'r broses ymgynghori, wedi datgan eu bod yn "parhau i fod â pryderon ynghylch y cais fel y'i cyflwynwyd," ond ychwanegon nhw eu bod "yn fodlon y gellir goresgyn y pryderon hyn" drwy osod amodau ar unrhyw ganiatâd.
Yn ôl awdurdod y parc mae 1,590 o wrthwynebiadau wedi eu derbyn, gyda 1,140 o'r rheiny yn rhai "union yr un fath yn dilyn ymgyrch ar-lein".

Dywedodd Graeme Cotterill o Gymdeithas Eryri ei fod yn siomedig iawn â'r penderfyniad i gymeradwyo'r cais
Mae Cymdeithas Eryri yn gwrthwynebu'r cynllun oherwydd pryder am yr effaith bosib ar fyd natur.
Maen nhw o'r farn byddai dargyfeirio peth o'r dŵr yn cael effaith andwyol ar edrychiad a sain y rhaeadr.
Gyda'r safle hefyd yn un o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI) mewn parc cenedlaethol, ychwanegon nhw bod mwsoglau a llysiau'r afu prin yno, yn benodol oherwydd y lleithder.
Ar ôl y cyfarfod ddydd Mercher, dywedodd Cyfarwyddwr y Gymdeithas, Graeme Cotterill, ei fod yn siomedig â'r penderfyniad i gymeradwyo'r cais.
"Yn ein barn ni mae'r cais yma yn mynd yn erbyn holl rinweddau arbennig y parc cenedlaethol," meddai.
"Fe ddylai yna fod amgylchiadau eithriadol i'r cais hwn gael ei gymeradwyo, a doedd yna ddim o gwbl."
Ychwanegodd y bydd y gymdeithas yn ystyried beth fydd y camau nesaf iddyn nhw.

Dywedodd un o'r tri brawd sydd y tu ôl i'r fenter, Moi Dafydd, y byddan nhw'n cydweithredu'n llawn â'r amodau sydd wedi eu gosod
Ond mae'r rheiny sydd y tu ôl i'r fenter - tri brawd sy'n ffermio yn ardal Y Bala - yn dadlau mai "effaith fach iawn" y byddai'r cynllun yn ei gael ar y tirwedd, ac y bydd yr elfen hydro ond yn weithredol pan fydd digon o ddŵr yn yr afon.
Fel rhan o'r cais, oedd wedi ei gyflwyno gan Dafydd Elis, Moi Dafydd ac Elis Dafydd, dywedon nhw: "Bydd y cynllun arfaethedig hwn yn rhoi sicrwydd i genedlaethau'r dyfodol yn ogystal â chaniatáu i ni fel teulu chwarae rhan wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd presennol drwy gynhyrchu trydan o ffynhonnell adnewyddadwy i'r gymuned leol ei ddefnyddio."
Dywedodd Moi Dafydd wedi'r cyfarfod ei fod yn "falch iawn" gyda'r penderfyniad.
"Mae wedi bod yn broses hir iawn a cymhleth a lot o wybodaeth wedi ei gyflwyno, a 'dan ni'n falch eu bod nhw wedi dod i'r casgliad a mynd hefo argymhelliad y swyddog cynllunio yn y diwedd."
Dywedodd bod yna lawer o amodau wedi eu cyflwyno gan y swyddog cynllunio, ac y byddan nhw'n "cydymffurfio'n llawn" â'r amodau rheiny.
"Y peth olaf 'dan ni ishio'i wneud fel ffermwyr y tir ydi difetha'r tir - ni fydde'r bobl gynta i sylwi ar unrhyw effaith negyddol ar y tirlun."