Canfod casgliad bathodynnau 'sy'n gyfoeth o gofnod hanes'

Rebecca Hayes a'i chasgliad o fathodynnauFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Rebecca Hayes o hyd i'w hen gasgliad o fathodynnau tra'n clirio ei thŷ yn ddiweddar

GanHarri Evans
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae dynes o Sir Gâr sydd â chasgliad enfawr o fathodynnau yn dweud eu bod yn "cofnodi hanes" ei phlentyndod, ond hefyd ei hardal leol a'r genedl gyfan.

Roedd Rebecca Hayes, o Ffair-fach ger Llandeilo, yn casglu pob math o fathodynnau yn ifanc - o rai o'i hoff fandiau Cymraeg i rai o gadwyni bwytai yr oedd yn mynd iddynt gyda'i theulu.

Fe wnaeth Rebecca, 52, ailddarganfod ei chasgliad yn ddiweddar tra'n clirio ei thŷ a dywedodd ei bod yn "ail-fyw atgofion arbennig" wrth edrych ar ei bathodynnau am y tro cyntaf mewn blynyddoedd.

Nawr, mae Rebecca'n bwriadu arddangos ei chasgliad yn ei thŷ fel yr oedd yn gwneud yn blentyn ac yn gobeithio dod o hyd i gasglwyr eraill.

Casgliad bathodynnau Rebecca HayesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Dywedodd Rebecca ei bod wedi dechrau casglu bathodynnau yn blentyn a'i bod yn eu harddangos ar ddarn o ddefnydd ar wal ei hystafell.

"Yn blentyn ro'n i'n mynd i'r Steddfod a'r Royal Welsh yn chwilio am freebies ac fe wnaeth y casgliad ddechrau fan 'na," meddai.

"Ac wedyn pan o'n i'n mynd ar wyliau ro'n i'n prynu bathodyn bach ac roedd pobl yn mynd i wybod wedyn bod casgliad 'da fi a'n rhoi rhai i fi."

Mae nifer o fathodynnau Rebecca wedi dod o gigiau - gan gynnwys Ail Symudiad, Sobin a Bryn Fôn - ond mae un yn enwedig yn sefyll allan er dyw hi ddim yn cofio'r band.

"Mae gen i un, sai'n siŵr be yw e, ond mae 'na lun tanc arno fe yn dweud 'tanc yn bomio Brynaman'," meddai.

"Fi'n amau mai band yw Tanc ac ro'n nhw'n chwarae yn Brynaman ond sai'n siŵr."

Casgliad bathodynnau Rebecca HayesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Roedd Rebecca'n agos i gael gwared â'i chasgliad a oedd yn cael ei gadw mewn hen focs fisgedi trwy gamgymeriad wrth iddi glirio ei thŷ.

"Cyn bo fi wedi agor y bocs - a sylweddoli'r cyfoeth o gofnod hanes oedd gyda fi - o'n i'n clirio'r tŷ a'n meddwl gall hwn fynd," meddai.

"Ond unwaith agores i'r bocs a dechrau mynd trwyddo nhw eto a gweld, nid yn unig eu bod yn gofnod o'n hanes ein hardal ni a'n cenedl ni, ond o fywyd ni fel teulu.

"Ymhlith y rhai Saesneg mae 'na lwyth o rai Beefeater, y gadwyn llefydd bwyd, a dwi'n cofio'n glir wedyn mynd mas am fwyd yna fel plentyn a ma'n atgof o rywbeth roedden ni'n ei wneud fel teulu."

'Cofio'r bobl sydd wedi rhoi nhw i ti'

Dywedodd ei bod hefyd yn arfer casglu tocynnau oddi ar becynnau creision a bocsys Weetabix a'u hanfon i ffwrdd am fathodynnau.

Mae llawer o'r bathodynnau yn dangos "logos sydd wedi mynd yn angof, rhai BT er enghraifft, neu siope sydd wedi newid eu logos - yr hen logos Curly Wurly a Freddo" gydag atgofion yn llifo'n ôl wrth edrych arnyn nhw, dywedodd Rebecca.

"Ti hefyd yn cofio'r bobl sydd wedi rhoi nhw i ti," meddai.

"Fy ffefryn yw un gyda llun o fwthyn yn llosgi ac mae'n dweud, mewn braslythrennau, 'fi sy'n llosgi tai haf' yn ôl o'r ymgyrch pan doedd neb yn gwybod pwy oedd yn gyfrifol.

"Ond mewn llythrennau bach iawn, iawn ar ben 'fi sy'n llosgi tai haf' mae'n dweud 'nid'."

Casgliad bathodynnau Rebecca HayesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Roedd elfen gymdeithasol i gasglu bathodynnau a braf oedd rhannu'r profiadau gyda phobl eraill, ychwanegodd Rebecca.

"Dyw rhai ohonyn nhw ddim yn meddwl dim byd i bobl heddiw - mae gen i un yn dweud 'I hate JR' sy'n cyfeirio at gymeriad cas yn y rhaglen boblogaidd Dallas oedd wedi lladd ei frawd - felly maen nhw'n sicr yn cofnodi hanes mewn ffordd."

Dywedodd bod arferion pobl ifanc wedi newid yn sylweddol ers ei phlentyndod hi

"Oedd o'n amser symlach, mae diddordebau plant nawr yn fuddsoddiad. Blynyddoedd yn ôl oeddech chi'n prynu rhywbeth am geiniogau ac oedd yn digoni," meddai.

"Dwi'n swnio'n hen nawr!"

'Dangos hanes fy mywyd'

Dywedodd Rebecca bod ei chasgliad yn werthfawr iddi gan ei fod yn adrodd stori a'n "dangos hanes fy mywyd i a hanes y fath o fywyd o'n i'n byw hefo'r teulu".

Ond mae'n bosib bod gwerth ariannol i ambell i un, fel ei hen fathodyn Doctor Who, meddai, sy'n denu diddordeb mawr gan gasglwyr ar-lein.

Dydi Rebecca ddim wedi prynu bathodyn newydd ers blynyddoedd, ond dywedodd y bydd "yn sicr yn gwneud ymweliadau i weld faint o bobl eraill sydd â chasgliad tebyg" ar ôl iddi ailddarganfod ei chasgliad ei hun.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.