Y Bandana i ailffurfio ar gyfer Eisteddfod 2026

Y BandanaFfynhonnell y llun, Eisteddfod
  • Cyhoeddwyd

Bydd Y Bandana yn ailffurfio eleni i berfformio yn Eisteddfod y Garreg Las yn yr haf.

Ar ôl 10 mlynedd o seibiant, bydd y band yn cloi nos Wener ar Lwyfan y Maes.

Dyma fydd eu perfformiad cyntaf ar Faes yr Eisteddfod ers Y Fenni yn 2016.

Dywedodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, ei bod yn "hynod falch o allu cadarnhau" y bydd y band yn ymddangos, a'u bod yn "siŵr o ddenu ac apelio at gynulleidfa eang".

Dywedodd Sion Owens, basydd y band: "Ein bwriad ydi mynd a'r gynulleidfa nôl mewn amser gan greu set llawn nostalgia!

"Dyma gyfle i ni gael ail fyw a dathlu diniweidrwydd ieuenctid a'i ddod â fo i genhedlaeth newydd hefyd, gyda'r gobaith o greu atgofion a chael lot o hwyl yn gwneud hynny."

Daw'r cyhoeddiad ar ôl i'r Eisteddfod gadarnhau pa artistiaid fydd yn perfformio ym Maes B eleni.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Straeon perthnasol