Cynllun gofal plant yn 'llinell goch' mewn trafodaethau cyllideb - Llafur

gofal plant Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r llywodraeth newydd wedi bod dan bwysau i egluro sut y mae'n bwriadu ariannu ei phrif bolisi gofal plant

GanJames Williams
Cyflwynydd BBC Walescast
  • Cyhoeddwyd

Mae Llafur Cymru yn dweud na fydd yn cefnogi cyllideb Llywodraeth Cymru os bydd toriadau i gynllun gofal plant ar gyfer y blynyddoedd cynnar.

Dywedodd arweinydd y blaid, Ken Skates, fod yn rhaid i ddyfodol cynllun Dechrau'n Deg fod yn "llinell goch" yn y trafodaethau cyllideb parhaus rhwng ei blaid a'r llywodraeth.

Mae gweinidog yn llywodraeth Plaid Cymru, Dafydd Trystan Davies, wedi canmol agweddau o'r cynllun, ond ni ddywedodd y bydd yn parhau yn ei ffurf bresennol.

Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y bydd cefnogaeth i "blant dan anfantais yn cael ei chryfhau" wrth iddi ehangu ei pholisi gofal plant am ddim.

Mae Plaid Cymru yn rhedeg Llywodraeth Cymru heb fwyafrif o seddi yn y Senedd, sy'n golygu bod yn rhaid gwneud cytundebau â phleidiau gwleidyddol eraill er mwyn pasio cyllidebau neu ddeddfau newydd.

Ym mis Gorffennaf, collodd y llywodraeth bleidlais yn y Senedd ar gynlluniau gwariant ar ôl methu â dod i gytundeb â Llafur Cymru.

Beth yw Dechrau'n Deg?

Lansiwyd rhaglen Dechrau'n Deg gan Lywodraeth Cymru yn 2006/07.

Mae'n weithredol ym mhob awdurdod lleol ers 2007/08, a'i nod yw gwella canlyniadau ar gyfer plant yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.

Mae'n cynnwys 12.5 awr o ofal plant am ddim i blant dwy oed, ac mae'n cael ei ehangu ledled Cymru fel rhan o nod polisi llywodraeth Plaid Cymru i ddarparu 20 awr o ofal plant cyffredinol am ddim i blant rhwng naw mis a phedair oed.

Ers etholiad mis Mai, mae'r llywodraeth newydd wedi bod dan bwysau i egluro sut y mae'n bwriadu ariannu ei phrif bolisi gofal plant.

Amcangyfrif diweddaraf Llywodraeth Cymru yw y bydd angen rhwng £250m a £500m o gyllid ychwanegol y flwyddyn, yn dibynnu ar faint o rieni sy'n manteisio ar y cynllun.

Wrth siarad mewn recordiad byw o bodlediad Senedd Sources ddydd Mawrth, ni wnaeth y gweinidog cabinet dros effeithiolrwydd llywodraeth a'r cyfansoddiad, Dafydd Trystan Davies, ddiystyru'r posibilrwydd o dorri neu newid rhaglen Dechrau'n Deg fel ffordd o ail-flaenoriaethu cyllid Llywodraeth Cymru.

Pan ofynnwyd iddo a allai warantu y byddai'r cynllun yn dal i fod ar gael erbyn yr etholiad nesaf, atebodd: "Dydw i ddim yn meddwl y gallaf warantu y bydd unrhyw raglen unigol yn parhau yn ei ffurf bresennol."

"Yr hyn sy'n wirioneddol gryf a phwysig yn achos Dechrau'n Deg yw'r agweddau sy'n ymwneud â therapi lleferydd ac iaith, a'r agwedd iechyd.

"Felly, a allwch chi warantu y bydd y darpariaethau hynny o Ddechrau'n Deg yn rhan o'r cynnig [gofal plant]? Yn amlwg, mae'n rhaid iddyn nhw fod.

"Yr hyn rwyf wedi'i weld gyda Dechrau'n Deg yw bod rhai cynghorau wedi bod yn llawer mwy effeithiol na'i gilydd wrth ddarparu gwasanaethau i nifer fawr o blant tlawd ac o gefndiroedd difreintiedig; felly, yr hyn rwyf am ei weld yw bod pob cyngor yn mabwysiadu'r arferion gorau.

"Fel y gwnaed mewn cyd-destunau amrywiol, mae modd targedu'r ddarpariaeth honno," ychwanegodd.

gofal plant Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Plaid Cymru yn addo ehangu gofal plant i 20 awr yr wythnos am 48 wythnos y flwyddyn, i blant o naw mis oed i bedair oed

Mewn cyfweliad â Walescast ar y BBC, dywedodd arweinydd Llafur Cymru, Ken Skates: "Mae'n ymddangos eu bod yn ystyried defnyddio arian Dechrau'n Deg i dalu am rywbeth na wnaethant ei gostio erioed yn ystod yr etholiad nac yn eu maniffesto – sef y cynnig gofal plant – a fydd o fudd i lawer o deuluoedd dosbarth canol ac uwch.

"Ond y bobl a'r plant sy'n elwa ar Dechrau'n Deg fydd yn talu'r pris.

"Byddwn i'n synnu'n fawr, ac yn siomedig iawn, pe na bai Plaid yn ymrwymo i ddyfodol Dechrau'n Deg," ychwanegodd.

Pan ofynnwyd iddo a fyddai unrhyw newid i Dechrau'n Deg yn golygu na fyddai ei blaid yn cefnogi'r gyllideb, atebodd Skates: "I ni fel plaid, rwy'n credu bod yn rhaid i hynny fod yn llinell goch."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ein prif gynnig gofal plant yn un mwy hael nag unrhyw un arall yn y DU.

"Rydym yn gwybod pa wahaniaeth y bydd yn ei wneud i deuluoedd, i gydraddoldeb rhwng y rhywiau, i ganlyniadau i blant ac i economi Cymru.

"Mae ein cynnig yn golygu y bydd gofal plant yn fwy hygyrch ac yn fwy fforddiadwy i bob teulu.

"Mae'r cam cyflawni presennol, a fydd yn darparu gofal plant a ariennir ar gyfer pob plentyn dwy oed, yn cael ei weithredu drwy fodel Dechrau'n Deg.

"Ar yr un pryd, bydd y cymorth sydd ar gael i blant dan anfantais yn cael ei gryfhau o ganlyniad i'n cynnig."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.