Teleri Wyn Davies: O ddysgu yn China i ffermio yn Seland Newydd!

Teleri Wyn DaviesFfynhonnell y llun, Teleri Wyn Davies
Disgrifiad o’r llun,

Ffermio yn Seland Newydd fydd Teleri Wyn Davies yn ei wneud am y tro

GanGwydion ap Llyr Edwards
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Ddwy flynedd ers gadael Cymru fach am China, mae Teleri Wyn Davies o'r Bala wedi bod yn edrych yn ôl ar ei hamser yno ac mae hefyd yn gyffrous am ei phennod nesaf.

Buodd hi'n chwarae rygbi yn Hong Kong, yn hyfforddi'r gamp yn Shenzhen ac o ddyddiau Llun i Gwener roedd hi'n athrawes i blant mewn ysgol feithrin.

Ond bellach mae wedi glanio yn Seland Newydd ers ychydig ddyddiau'n unig, a ffermio fydd ei bywoliaeth newydd.

Y rheswm am hynny, meddai yw ei bod wedi profi China a "'di neud y gore o'r profiad" ond nawr mae "wedi cael ryw ysfa i 'neud rhywbeth newydd a gweld diwylliant newydd".

Teleri Wyn DaviesFfynhonnell y llun, Teleri Wyn Davies
Disgrifiad o’r llun,

Bu Teleru'n chwarae rygbi yn y 'Premiership' yn Hong Kong

Esboniodd Teleri ei bod wedi dysgu llwyth o'i phrofiad yn Asia "a hynny am fi fy hun yn fwy na dim byd".

"Dwi 'di cael profiade' alli di'm rhoi pris arnyn nhw - diwylliant gwahanol, sut ma' pobl yn byw, pa mor rhwydd 'di rhei pethe."

Rhai enghreifftiau o'r pethau haws hynny, meddai: "Ti'n ordro wbeth ar y we ac mae o wrth y drws mewn hanner awr, ma' trafnidiaeth mor hawdd yne, ti'n gallu ordro bwyd a diod ac mae o'n cyrraedd ar ddrôn.

"Mae 'ne hyd yn oed robots yn 'neud security mewn rhai llefydd," meddai.

Teleri a phlantFfynhonnell y llun, Teleri Wyn Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dysgu plant meithrin oedd swydd Teleri yn ystod yr wythnos

Roedd y cyfnod draw yno werth yr ymdrech yn sicr, yn ôl Teleri, gan iddi wneud ffrindiau oes a hynny gyda phobl "'swn i byth wedi cyfarfod fel arall".

"Dwi'n falch bo' fi 'di bod, dwi 'di cael amser andros o dda, ond wedi cael ambell i her allan yne hefyd 'de," meddai, gan gyfeirio at drafferthion Visa y cafodd hi yno.

"Dwi 'di cael lot o gyfleon i deithio i wahanol lefydd tra dwi yno 'fyd, fatha Gwlad Thai a'r Philipinau.

"Ti methu mynd i'r Philippines yn hawdd o Bala! Ma' trafnidiaeth lot agosach, haws a rhatach yne, felly pan ges i amser ffwr' o gwaith - nes i gymryd y cyfle."

Teleri Wyn DaviesFfynhonnell y llun, Teleri Wyn Davies
Disgrifiad o’r llun,

Teleri (dde) yn mwynhau ei hun yn China gyda'i ffrind gorau, Georgia

O ran bwyd, yn amlwg roedd y fwydlen yn wahanol iawn yno o gymharu ag adref, meddai.

"Dydi bwyd yn China ddim fatha dy têc-awê lleol di adre' - ma' 'ne lot o hot pots, barbeciws gwahanol a bellu yne.

"Lot o bethe gwahanol iawn ar rai strydoedd, pobl yn byta traed ieir, gwaed chwaden a hyd yn oed crwbanod mewn rhai llefydd.

"O'dd 'ne lot o bethe o adre' alli di gael yne hefyd, ond di'o ddim r'un peth - anodd cael siocled, caws a bara neis 'de."

Teleri Wyn Davies ac eliffantFfynhonnell y llun, Teleri Wyn Davies

Ond, un o'r pethau yr oedd hi wirioneddol wedi methu oedd cyfathrebu yn ei mamiaith ac mae hynny wedi chwarae rôl yn ei hantur ddiweddaraf.

"O'n i'n teimlo bod y bennod yn dod i ben yn China - teimlo bo' fi eisiau 'wbeth arall, ond ddim yn cweit yn barod i fynd adre - eisiau gweld mwy o'r byd a chael o allan o'r system mewn ffor', cyn mynd yn ôl at wbeth sefydlog am byth."

Gweld hysbyseb am swydd ar y cyfryngau cymdeithasol a wnaeth Teleri, i weithio ar fferm yn Seland Newydd.

Teulu Cymraeg oedd yn hysbysebu, Sam a Sara - "y pobl mwya' caredig ac ma'r croeso ganddyn nhw wedi bod yn anghrediniol".

Teleri Wyn DaviesFfynhonnell y llun, Teleri Wyn Davies
Disgrifiad o’r llun,

Ymhlith ei phrofiadau'n teithio mae Teleri wedi nofio gyda siarcod

"Ges i sgwrs ar y ffôn hefo Sara a Sam ac mi oedden nhw'n keen i fi ddod a felly dyma fi.

"Dwi 'rioed wedi ffermio o'r blaen, dwi methu coelio 'mod i yma - o'dd y teulu i gyd yn chwerthin pan udes i'r newyddion wrthyn nhw.

"Twrne ydw i pan dwi adre, 'di dysgu yn China ac 'ŵan yn ffermio yn Seland Newydd - masiwr bo' nhw'n meddwl mai astronaut fyddai nesa'!"

Teleri Wyn DaviesFfynhonnell y llun, Teleri Wyn Davies
Disgrifiad o’r llun,

Fe dreuliodd Teleri amser yng Ngwlad Thai ac mae hefyd wedi bod i weld gwaith rhew yn Harbin, China - "ti m'ond yn gallu mynd yna dwywaith y flwyddyn"

Godro a magu lloeau fydd ei phrif ddyletswyddau yn ei swydd newydd, ond mae'n gobeithio parhau hefo'i rygbi yno hefyd.

"Dwi 'di cysylltu hefo ambell dîm achos dwi yma tan o leiaf fis Mai flwyddyn nesa'.

"Dwi m'ond wedi bod yma ers tri diwrnod a dwi fatha person newydd yn barod - mae hi mor heddychlon yma."

'Un diwrnod ar y tro'

"Dwi'n gallu ymlacio yma a ma' Sara a Sam eisiau i fi gael cyfleoedd ac yn 'neud fi deimlo mor gartrefol.

"Dwi'n cymryd hi un diwrnod ar y tro.

"Ma' hi'n neis cael bod mewn gwlad arall a siarad Cymraeg - o'n i 'di methu hynny - ma' 'na ryw ddealltwriaeth yn does – bod yn ti dy hun wrth siarad yn dy iaith gynta'."

GwarthegFfynhonnell y llun, Teleri Wyn Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mi fydd Teleri'n helpu i odro a magu lloeau yn Seland Newydd

Dywedodd Teleri ei bod hi'n dystiolaeth mewn cig a gwaed ei bod hi byth yn rhy hwyr i wneud rhywbeth gwahanol mewn bywyd.

"Sbïa arna' i 'de, dwi 'di prynu tŷ, cael swydd, chware rygbi i 'ngwlad - a hynny cyn mynd i deithio.

"Dwi'n cofio Dad yn sôn am faint y byse fo 'di licio mynd i Seland Newydd i ffermio, 'se hon yn daith y byse dad wedi mwynhau ei g'neud."

Teleri Wyn DaviesFfynhonnell y llun, Teleri Wyn Davies
Disgrifiad o’r llun,

Wrth gwrs, roedd yn rhaid iddi ymweld â'r Wal Fawr enwog tra yr oedd hi'n China

Bu farw tad Teleri, Brian 'Yogi' Davies - cymeriad poblogaidd yn y Bala - yn 56 oed, chwe blynedd ar ôl cael ei barlysu wrth chwarae ei gêm olaf i Glwb Rygbi'r Bala.

"Dwi'n teimlo fatha bo' fi'n cario ei waddol o 'mlaen mewn ffor', ond dwi'n neud o achos bo' fi'n licio ei 'neud o.

"Dwi'n meddwl y byse fo'n falch iawn ohona' i," ychwanegodd Teleri.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.