Cwt ar draeth Abersoch heb drydan na dŵr ar werth am £200,000

Y cwtFfynhonnell y llun, Elvins Estate Agents
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y cwt ei ailadeiladu yn 2023

  • Cyhoeddwyd

Mae cwt ar draeth yn Abersoch ym Mhen Llŷn, sydd heb drydan na dŵr, wedi cael ei roi ar y farchnad gyda phris o £200,000.

Mae'r pris gofyn dim ond ychydig yn llai na'r pris cyfartalog am dŷ yng Nghymru.

Er gwaethaf pris sy'n ymddangos yn uchel, mae'r arwerthwr tai Rhys Elvin yn disgwyl iddo fod yn boblogaidd iawn, oherwydd ei fod yn dechnegol yn golygu y gall rhywun fod yn berchen ar ran o'r traeth.

Cafodd ei hysbysebu am y tro cyntaf yr wythnos diwethaf, ac fe gafodd ei ailadeiladu yn 2023.

Tu mewn i'r cwtFfynhonnell y llun, Elvins Estate Agents
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cytiau yn cynnig lloches, ond does dim caniatâd iddyn nhw gael trydan

Mae'n rhaid i berchnogion dalu tua £800 y flwyddyn i'r cyngor amdanyn nhw, ac mae angen cloddio rhai cytiau allan o'r tywod yn y gwanwyn.

Er gwaethaf hynny, dyw symiau chwe ffigwr ddim yn anghyffredin - cafodd un arall ei roi ar y farchnad am yr un pris fis diwethaf ac un arall am £150,000.

"Mae galw amdanyn nhw o hyd," meddai Mr Elvin.

Esboniodd ei fod yn gobeithio bod y cytiau yn "rhywbeth na fydd fyth yn gostwng mewn gwerth".

"Mae'n rhywbeth prin i fedru bod yn berchen arno - rydych chi'n berchen ar ran o'r traeth, yn dechnegol."

Golygfa o'r cwtFfynhonnell y llun, Elvins Estate Agents

Mae gan Abersoch boblogaeth o tua 600 trwy gydol y flwyddyn, gyda 30,000 o ymwelwyr yn tyrru yno yn ystod misoedd yr haf.

Nid oes caniatâd i unrhyw un o'r cytiau gael trydan, ac maen yn cynnig lloches sylfaenol yn unig.

Maen nhw'n cael eu defnyddio'n bennaf gan berchnogion sy'n defnyddio'r traeth.

Ychwanegodd Mr Elvin bod diddordeb "da" wedi bod yn y cwt hyd yma, a'i fod yn disgwyl i'r prynwr fod yn rhywun sydd eisoes yn berchen ar eiddo yn Abersoch.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig