£10,000 o iawndal ar ôl i 'fy lluniau gael eu dwyn i dwyllo dynion'

Cafodd lluniau o Sasha-Jay eu dwyn o'i chyfrifon cyfryngau cymdeithasol a'u defnyddio i swyno trwy dwyll
- Cyhoeddwyd
Mae merch yn ei harddegau i gael iawndal o £10,000 ar ôl i luniau ohoni gael eu defnyddio i greu cyfrifon ffug ar-lein.
Cafodd lluniau Sasha-Jay Davies, 19 o Aberdâr eu dwyn gan Elha Mai Weston - fe wnaeth hi greu cyfrif o dan yr enw Sophie gan ddefnyddio lluniau o Sasha-Jay i siarad yn rhamantus â dynion ar Tinder, TikTok ac Instagram.
Roedd gan Weston fwy na 100,000 o ddilynwyr ar-lein.
Yn y diwedd roedd Sasha-Jay ofn gadael ei thŷ gan fod dynion yn dod lan ati'n meddwl eu bod mewn perthynas â hi.
Fe ymddiheurodd Weston gan gyfaddef ei bod wedi bod yn gwneud hyn am bedair blynedd a chytunodd i dalu iawndal i Sasha-Jay.
'Mae pobl yn dwyn fy lluniau i dwyllo dynion, mae'n frawychus'
- Cyhoeddwyd12 Mawrth
Miloedd o rieni i gael cais i beidio rhoi ffôn clyfar i'w plant nes 14
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2025
Mwy o ferched na bechgyn yn cael problemau â'r cyfryngau cymdeithasol
- Cyhoeddwyd9 Mai 2025
Fe glywodd y llys fod Weston wedi cyflawni "ymgyrch barhaus o efelychu hunaniaeth ar-lein" sy'n cael ei adnabod fel 'catfishing'.
Yn gynharach eleni dywedodd Sasha-Jay Davies, sy'n fyfyrwraig, wrth BBC Cymru: "O'n i'n arfer mynd allan yn aml ond nawr prin ydw i'n mynd allan oherwydd fy mod i'n ofni pa ddyn fydd yn dod lan atai nesaf.
"Mae'n anodd iawn ac ni fyddwn yn dymuno hyn i fy ngelyn pennaf.
"Mae'n frawychus cael eich herio am rywbeth chi ddim wedi 'neud a sylweddoli bod rhywun yn defnyddio'ch wyneb i swyno eraill."
Cafodd lluniau ohoni eu rhannu ar Tinder, Hinge, Snapchat, TikTok, Instagram, Facebook a SoundCloud a chafodd miloedd eu twyllo ar draws y platfformau.
Fe glywodd yr Uchel Lys yn Llundain fod Weston wedi defnyddio lluniau Sasha-Jay rhwng 2022 a 2026 gan alw ei hun yn "Sophie" a "Sophie Kadare".
Defnyddiodd hi luniau AI hefyd yn seiliedig ar luniau Sasha-Jay gan ddechrau sawl perthynas ramantus go iawn.

Roedd 81,000 yn dilyn y cyfrif ffug ar TikTok
Dywedodd Sasha-Jay ei bod yn teimlo'n orbryderus pan oedd pobl ddieithr yn ei hadnabod yn archfarchnad.
"Mae bechgyn wedi dod lan atai a fy nghyhuddo o anfon negeseuon atyn nhw, eu denu nhw ac i wneud cynlluniau i gyfarfod - sgyrsiau fi erioed wedi'u cael," meddai.
Clywodd y llys fod un dyn a aeth i siarad â Sasha-Jay yn wirioneddol gredu ei fod mewn perthynas â hi a hynny ar ôl misoedd o anfon negeseuon at un o gyfrifon ffug Weston.
Dywedodd Sasha-Jay bod tua 20 o ddynion a nifer o fenywod wedi cysylltu â hi ar y cyfryngau cymdeithasol gan honni eu bod yn ei hadnabod hi.
Dywedodd i'r cyfrif ffug cyntaf ddod i'r amlwg ar TikTok yn 2022 pan oedd hi ond yn 16 mlwydd oed.
Fe geisiodd roi gwybod fod y cyfrif yn un ffug ond fe ledodd y broblem i blatfformau ac apiau eraill yn gyflym.
Clywodd y llys fod Weston yn parhau i ffugio ar ôl i Sasha-Jay wneud ei chyfrifon yn breifat. Roedd y cyfrifon yn defnyddio hen luniau a lluniau oedd wedi cael eu haddasu gan AI.
"Mae'n anodd iawn ac ni fyddwn yn dymuno hyn i fy ngelyn pennaf," meddai Sasha-Jay.
'Difaru' ac 'ymddiheuro'
Clywodd y llys fod Weston wedi derbyn bod ei hymddygiad yn anghywir a'i bod yn cydnabod y "trallod a'r dioddefaint sylweddol" y mae wedi ei achosi i Sasha-Jay.
Clywodd y llys ei bod hi'n "difaru gwneud yr hyn a wnaeth ac yn ymddiheuro i Ms Davies yn llwyr ac yn ddiamod am bopeth y mae hi wedi gorfod ei ddioddef".
Cytunodd Weston i dalu i Davies iawndal o £10,000 yn ôl adroddiadau ac mae wedi cytuno hefyd i beidio ag ymddwyn fel yna yn y dyfodol, fel rhan o orchymyn Tomlin - sy'n gytundeb cyfiawnder sifil rhwymedig.
Fe allai Weston gael ei chanfod yn euog o ddirmygu'r llys pe bai hi'n torri'r cytundeb.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.