Cyhuddo cyngor o 'daflu tanwydd ar goelcerth' wrth alw am atal cau ysgolion Cymraeg

Tair ysgolFfynhonnell y llun, Google/BBC
GanAled Scourfield
Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Sir Gâr wedi eu cyhuddo o "daflu tanwydd pellach ar goelcerth sydd eisoes yn llosgi tu hwnt i reolaeth" wrth i gymunedau Cymraeg grebachu, gan gadeiryddion tair ysgol gynradd sydd dan fygythiad.

Yng Nghwm Gwendraeth mae ysgolion Pontiets, Bancffosfelen a Charwe yn wynebu ymgynghoriad posib ar eu dyfodol, ynghyd ag ysgol Blaenau ger Llandybie.

Mewn llythyr at Lywodraeth Cymru a'r Ysgrifennydd Addysg, Anna Brychan, mae llywodraethwyr y tair ysgol yng Nghwm Gwendraeth yn galw am "foratoriwm ar gau unrhyw ysgol cyfrwng Cymraeg" am y tro, a gwrthod y syniad o gau ysgolion "yn un o gadarnleoedd y Gymraeg".

Dywedodd Cyngor Sir Caerfyrddin bod eu rhaglen Moderneiddio Addysg yn canolbwyntio ar sicrhau bod y ddarpariaeth addysg yn y sir yn gynaliadwy, yn effeithiol ac yn gallu diwallu anghenion dysgwyr cenedlaethau'r dyfodol.

Yn ôl Llywodraeth Cymru: "Ni all gweinidogion Cymru wneud sylw ar gynigion ad-drefnu ysgolion gan y gallai fod yn ofynnol iddynt wneud penderfyniad arnynt."

Cwm Gwendraeth
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y llywodraethwyr fod cadw ysgolion cyfrwng Cymraeg Cwm Gwendraeth yn bwysig er "parhad yr iaith yn genedlaethol"

Yn eu llythyr at yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, Anna Brychan, mae cadeiryddion y tair ysgol, Andrew Barlow, Elin Cullen a Tudur Jones, yn galw am "foratoriwm ar gau unrhyw ysgol cyfrwng Cymraeg" am y tro.

Maen nhw'n dweud bod angen i Lywodraeth Cymru roi argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ar waith, "gyda'r bwriad canolog a thymor hir o sicrhau dyfodol i'r Gymraeg fel iaith gymunedol."

Yn ôl y llythyr, mae Cwm Gwendraeth yn bwysig nid yn unig i hunaniaeth Gymraeg Sir Gaerfyrddin, ond hefyd i "barhad yr iaith yn genedlaethol", fel "un o gadarnleoedd y Gymraeg."

"Mae polisi Sir Gâr yn taflu tanwydd pellach ar goelcerth sydd eisoes yn llosgi tu hwnt i reolaeth, ac mae angen ymyrraeth frys rhag inni weld y cyfan yn mynd yn ulw," meddai'r llywodraethwyr.

Ysgol Bancffoselen
Disgrifiad o’r llun,

Mae 48 o ddisgyblion yn Ysgol Bancffosfelen, sydd â chapasiti ar gyfer 98 o blant, ac mae pryderon am gyflwr rhai o adeiladau'r ysgol

Yn ôl dogfennau ymgynghorol y cyngor ar yr ysgolion, mae 48 o ddisgyblion yn Ysgol Bancffosfelen, ond mae 41 o ddisgyblion sydd yn byw yn yr ardal yn mynychu ysgolion tu allan i'r dalgylch.

Mae plant Ysgol Carwe wedi gorfod symud i Ysgol Gwynfryn dros dro, oherwydd cyflwr yr adeilad.

Yn ôl y cyngor, mae yna 58 o ddisgyblion ond mae 120 yn dewis mynychu ysgolion tu allan i'r dalgylch. Mae yna 50.8% o lefydd gwag.

Yn Ysgol Pontiets, roedd yna 21 ar y gofrestr yn ol cofnodion diweddaraf PLASC, ond mae 38 sydd yn byw yn y dalgylch yn mynychu ysgolion eraill.

Ysgol Pontiets
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Ysgol Pontiets 16 o ddisgyblion, er bod lle i 83 yn yr ysgol, ac mae ganddi ddiffyg ariannol o £80,469

Yn eu llythyr at Anna Brychan, mae Andrew Barlow, Elin Cullen a Tudur Jones yn dweud bod "polisi Sir Gâr yn taflu tanwydd pellach ar goelcerth sydd eisoes yn llosgi tu hwnt i reolaeth, ac mae angen ymyrraeth frys rhag inni weld y cyfan yn mynd yn ulw."

Yn benodol, maen nhw yn cyfeirio at "bwysigrwydd Cwm Gwendraeth, nid yn unig i Gymreictod y Sir, ond i barhad yr iaith yn genedlaethol" ac yn "erfyn arnoch i osod moratoriwm ar gau unrhyw ysgol cyfrwng Cymraeg, tan eich bod chi a'r cabinet wedi rhoi ar waith yr egwyddorion yr ydych wedi ymrwymo iddyn fel llywodraeth, ar sail argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg."

Yn y llythyr, maen nhw yn galw ar aelodau'r cabinet i "weithredu argymhellion y Comisiwn (Cymunedau Cymraeg)" yn ddi-oed "gyda'r bwriad canolog a thymor hir o sicrhau dyfodol i'r Gymraeg fel iaith gymunedol."

Dywedodd Cyngor Sir Caerfyrddin bod hi'n bwysig "ystyried sut mae ein hysgolion wedi'u trefnu i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gynaliadwy ac yn parhau i gefnogi disgyblion, staff a chymunedau ledled y sir" wrth i'r awdurdod wynebu heriau sy'n cynnwys "ysgolion sy'n gweithredu gyda nifer y disgyblion yn llawer is na'u capasiti a sefyllfaoedd ariannol anghynaliadwy."

Elin Cullen
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elin Cullen yn rhybuddio y byddai cau Ysgol Pontiets yn cael effaith ddifrifol ar y Gymraeg yn yr ardal

Dywedodd Elin Cullen, un o lofnodwyr y llythyr, y byddai cau Ysgol Pontiets yn cael "effaith ofnadwy ar yr iaith Gymraeg" yn yr ardal.

"Efallai bod lle i ysgolion mawr mewn trefi, ond so ni moyn colli beth sydd gyda ni ym Mhontiets ac ym Mancffosfelen a hefyd yng Ngharwe," meddai.

"Unwaith chi'n colli ysgol, deiff hi byth nôl," ychwanegodd, gan ofyn, "beth sydd o'n blaen ni yn y dyfodol?

"Oes rhagor o ysgolion yn mynd i gau? A oes rhagor o bentrefi yn mynd i fod yn yr un sefyllfa â ni yng Nghwm Gwendraeth?"

Meirion Prys Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Meirion Prys Jones yn dweud nad yw cau neu uno ysgolion bach o reidrwydd yn gwanhau'r Gymraeg

Dywedodd cyn-brif weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Meirion Prys Jones, nad yw'n wir o reidrwydd y byddai cau ysgolion bach yn arwain at ddirywiad yn y Gymraeg.

Dywedodd fod enghreifftiau mewn rhannau eraill o Gymru lle'r oedd uno ysgolion "wedi arwain at gryfhau'r Gymraeg", gan ychwanegu bod plant "di-Gymraeg yn dod i'r ysgolion yn cael eu hintegreiddio yn effeithiol iawn mewn i ysgolion mwy o faint".

Fodd bynnag, dywedodd fod Cwm Gwendraeth yn ardal "ofnadwy o bwysig o ran y Gymraeg", gan ei bod "ar y ffin ieithyddol".

"Mae'r Gymraeg yn edwino tua'r gorllewin, ac ar hyn o bryd, mae hynny'n digwydd yng Nghwm Gwendraeth."

Awgrymodd y gallai ysgolion mwy, gyda mwy o adnoddau a chyfleoedd i ddisgyblion, helpu i ddiogelu'r Gymraeg, yn hytrach na "chynnal yr hyn sydd yna ar hyn o bryd."

John Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae John Davies, cyn-arweinydd Cyngor Sir Penfro, yn dweud mai'r gymuned sy'n cynnal ysgol, ac nid i'r gwrthwyneb

Mae John Davies, a fu'n arweinydd Cyngor Sir Penfro pan gaewyd ysgolion Blaenffos a Hermon er mwyn creu ysgol ardal yng Nghrymych, yn dweud bod angen "arweiniad cenedlaethol" wrth i niferoedd disgyblion ostwng.

"Dyw hi ddim lan i ysgolion i gynnal cymuned, mae hi lan i gymuned i gynnal ysgolion.

"Os nad yw'r plant yna does yna ddim opsiwn gyda chi."

Dywedodd fod gan gynghorwyr ac aelodau'r Senedd ddyletswydd i wneud penderfyniadau anodd am ddyfodol ysgolion, a bod "addysg plentyn yn dod yn gyntaf", er ei fod yn "deall pryder cymunedau, a'u gofid a'u poen".

'Dim rheswm i oedi'

Dywedodd Dr Huw Williams, rhiant a llywodraethwr yn Ysgol Pontiets, mai'r gostyngiad yn niferoedd y disgyblion yw'r "union reswm" dros alw am foratoriwm ar gau ysgolion.

Mae'n dweud bod angen "gweithredu yn fuan" er mwyn rhoi "egwyddorion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ar waith" a datblygu "moratoriwm cenedlaethol" ar gyfer dyfodol ysgolion.

"Mae hynny yn rhywbeth sydd wedi bod yn addewid ers y llywodraeth ddiwethaf - does yna ddim rheswm i oedi."

Dywedodd hefyd fod y llywodraeth bresennol wedi cael cyfle i weithredu ar addewidion blaenorol ynghylch argymhellion y Comisiwn.

Ysgol CarweFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae adeilad Ysgol Carwe wedi bod ar gau ers Medi 2025

Mae Pwyllgor Craffu Addysg Sir Gâr wedi cefnogi ymgynghoriad ar ddyfodol Ysgol Bancffosfelen yn dilyn cyfarfod arbennig fore Gwener.

Roedd disgwyl i'r cynghorwyr ystyried dogfen ymgynghorol newydd ar ôl cais gan yr aelod lleol, Liam Bowen, i ddiweddaru'r wybodaeth yn y ddogfen. Y cabinet fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ar ddyfodol Bancffosfelen a thair ysgol arall.

'Adolygu trefniadau'

Mewn ymateb dywedodd Llywodraeth Cymru: "Ni all gweinidogion Cymru wneud sylw ar gynigion ad-drefnu ysgolion gan y gallai fod yn ofynnol iddynt wneud penderfyniad arnynt.

"Mater i awdurdodau lleol yw cynllunio lleoedd mewn ysgolion. Rhaid ystyried yn ofalus unrhyw gynigion sy'n effeithio ar ysgolion gwledig, gan roi sylw llawn i'w heffaith addysgol, ieithyddol a chymunedol."

Mae Plaid Cymru wedi gwrthod sawl cais am gyfweliad gyda'r tri aelod sydd yn cynrychioli sedd Caerfyrddin.

Mae yna 3,500 o lefydd gwag yn ysgolion Sir Gâr ac mi allai diffyg ariannol yr ysgolion gyrraedd cyfanswm o £16.4m erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

Cadarnhaodd Swyddfa Archwilio Cymru y byddan nhw'n "adolygu" trefniadau Cyngor Sir Gâr o oruchwylio cyllidebau ysgolion yn sgil y gorwario ac y byddan nhw'n cyflwyno adroddiad i'r cyngor yn y gwanwyn.

Cadarnhaodd y swyddfa hefyd bod y gwaith yma yn ymwneud yn benodol gyda Sir Gâr yn sgil y "risg" sydd i'r cyngor sydd yn ymwneud â chyllidebau ysgolion.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.