Beverley Knight a'r 'gyfrinach' i ganu Calon Lân yn berffaith

- Cyhoeddwyd
Beth yw'r gyfrinach i ganu Calon Lân yn berffaith?
Yn ôl y gantores Beverley Knight, bwyta picau ar y maen yw'r ffordd ymlaen!
Gyda help y gantores Cerys Matthews a'r actorion Luke Evans a Ruth Jones, mae'r gantores sy'n enwog am ei chaneuon fel Shoulda Woulda Coulda a Greatest Day wedi bod yn ymarfer un o emynau mwyaf enwog y Cymry cyn ei chyngerdd yng Nghaerdydd ar ddiwedd mis Mehefin 2026.
Caniatáu cynnwys Instagram?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.
Fe drodd at y cyfryngau cymdeithasol er mwyn gofyn am farn pobl ynglŷn â'i hynganiad - ac wedi derbyn sawl ymateb.
Yn ôl y cyflwynydd Owain Wyn Evans a'r gantores Bronwen Lewis, mae fersiwn y gantores o Wolverhampton yn anhygoel.
Ac mae'r cerddor Jools Holland, sydd wedi perfformio ym Mhortmeirion droeon - yn gytûn - ei fod yn "beautiful".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2025

- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2025
