Dynes wedi ei hanafu'n ddifrifol gan bolyn telegraff ym Mhontyclun

Cerbydau heddlu ym Mhontyclun
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i faes parcio gorsaf drenau Pontyclun brynhawn Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu'r De wedi cadarnhau bod un ddynes wedi cael anafiadau difrifol, ar ôl cael ei dal o dan bolyn telegraff ym Mhontyclun yn Rhondda Cynon Taf.

Cafodd swyddogion eu galw i faes parcio gorsaf drenau'r dref tua 12:50 ddydd Iau wedi adroddiadau bod dwy ddynes wedi eu dal yn gaeth o dan bolyn yno.

Cafodd y ddwy eu cludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, lle maen nhw'n parhau i gael triniaeth.

Dywedodd yr heddlu fore Gwener bod un o'r ddwy wedi cael ei hanafu'n ddifrifol.

Mae'r heddlu hefyd yn trafod gyda'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch o ran ymchwiliad i'r hyn ddigwyddodd.

Dywedodd llefarydd ar ran y Grid Cenedlaethol ddydd Iau eu bod yn "ymwybodol o'r digwyddiad ym Mhontyclun, ac yn gweithio gyda'r gwasanaethau brys."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.