'Straen ar deuluoedd' oherwydd oedi cyn cynnal angladdau

Arwel HughesFfynhonnell y llun, Arwel Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Arwel Hughes ydy'r bedwaredd genhedlaeth i weithio yng nghwmni angladdau ei deulu ar Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd

Mae teuluoedd sy'n galaru yn wynebu straen ychwanegol oherwydd oedi cyn y mae modd cynnal cynebryngau, yn ôl trefnydd angladdau yn y gogledd.

Dywedodd Arwel Hughes bod tystysgrifau marwolaeth yn cymryd mwy o amser i'w cyhoeddi oherwydd system gofrestru newydd.

"Dwi'n teimlo dros y teulu.... mae o'n gallu creu lot o stress iddyn nhw," meddai.

Bwriad y system newydd yw amddiffyn cleifion a gwella craffu.

Dywedodd Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y DU bod y system newydd wedi arwain at "welliannau sylweddol".

Fe ymddiheurodd Llywodraeth Cymru am unrhyw oedi gan ddweud eu bod yn gweithio i wella'r system.

Rheolau newydd yn sgil Harold Shipman

O dan yr hen drefn roedd marwolaeth yn cael ei chadarnhau ar ôl archwiliad gan ddau feddyg.

Roedd gan feddygon teulu yr hawl i wneud archwiliad annibynnol, ond yn rhannol oherwydd achos y llofrudd Harold Shipman, fe gafodd y drefn ei hadolygu.

Ers Medi 2024 mae pob marwolaeth yn cael ei archwilio'n annibynnol gan Archwiliwr Meddygol neu grwner.

Mae hyn yn rhoi cyfle i archwilio record feddygol y person sydd wedi marw a galluogi'r teulu i ofyn cwestiynau.

Un bwriad ydy osgoi esgeulustod meddygol.

Ond mae'r broses yn cymryd mwy o amser, sydd wedi arwain at rai teuluoedd yn disgwyl wythnosau am dystysgrif marwolaeth mewn achosion fyddai yn y gorffennol wedi cymryd rhwng wythnos a 10 diwrnod.

Arwel Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Arwel Hughes yn siarad ar raglen Beti a'i Phobol, fydd yn cael ei darlledu nos Sul 13 Medi 2026 am 18:00

"Mae wedi bod yn heriol ers iddyn nhw newid [y rheolau]" meddai Arwel Hughes mewn cyfweliad ar raglen Beti a'i Phobol.

"Mae pob un ymgymerwr sydd werth ei halen ac yn brysur - 'da ni gyd yn stryglo efo fo. Dwi'n teimlo dros y teulu.

"'Da ni'n ddigon prysur yn ystod y dydd, ond nid y [teuluoedd] - 'mond y nhw sy'n bwysig a 'mond y nhw sydd yn disgwyl efo'u hymadawedig nhw.

"Mae o'n heriol ac mae o'n gallu creu lot o stress iddyn nhw, a disgwyl heb fod eisiau."

'Pethau'n gwella ond ffordd i fynd'

Mr Hughes, sy'n cael ei adnabod fel Arwel Bocs, ydy'r bedwaredd genhedlaeth i weithio yng nghwmni angladdau ei deulu ar Ynys Môn.

Wedi'i fagu yn Amlwch, mae'n wyneb cyfarwydd yn y byd adloniant Cymreig fel sylfaenydd cwmni sain a goleuo MAD.

Roedd yn rhedeg y ddau fusnes tan iddo werthu MAD yn ddiweddar er mwyn treulio mwy o amser gyda'i deulu.

Er bod ganddo bryderon am yr oedi yn sgil system newydd cyhoeddi tystysgrifau marwolaeth, dywedodd bod pethau bellach yn mynd i'r cyfeiriad iawn.

"Mae pethau yn gwella ond mae yna dipyn o ffordd i fynd iddi fod mor slic ag oedd hi," meddai.

'Gwelliannau sylweddol'

Dywedodd Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y DU bod sicrhau atebion clir i deuluoedd yn bwysig a bod y system newydd wedi arwain at "welliannau sylweddol".

"Bellach, mae pob marwolaeth nad yw'n destun ymchwiliad crwner yn cael ei harchwilio'n annibynnol gan Archwilydd Meddygol," meddai llefarydd.

"Adolygwyd mwy na 500,000 o farwolaethau yn 2025, a manteisiodd 97% o deuluoedd yr ymadawedig ar y cyfle i ofyn cwestiynau."

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymddiheuro i unrhyw deuluoedd sydd wedi gorfod aros am gyfnod hir am dystysgrifau marwolaeth.

"Mae'r newidiadau a gyflwynwyd yng Nghymru a Lloegr i ddiwygio'r broses tystysgrifau marwolaeth wedi'u llunio er mwyn cryfhau mesurau diogelu ar gyfer teuluoedd," medden nhw.

"Rydym yn parhau i weithio gyda'r Prif Archwilydd Meddygol a'r GIG yng Nghymru i ddeall ble mae'r oedi yn digwydd, a sut y gellir rhoi cymorth ychwanegol i deuluoedd sy'n galaru ar adeg mor anodd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig