Galw o'r newydd am atal cynllun 'dinistriol' parc gwyliau Penrhos

Llun artist o ddatblygiad Parc PenrhosFfynhonnell y llun, CG Recovery
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl y datblygwyr mae'r cynllun yn gyfle i danio economi Môn a chreu 280 o swyddi

GanLiam Evans
Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Wrth i ddatblygwyr gyflwyno rhagor o fanylion am gynllun dadleuol i droi Parc Penrhos ar Ynys Môn yn bentref gwyliau, mae ymgyrchwyr yn galw unwaith yn rhagor i roi stop ar y cynllun.

Mae dogfennau newydd yn dangos cynlluniau'r datblygwyr i godi safle fyddai â 500 o gabanau pren, a pharc hamdden allai, yn ôl y cwmni arwain at greu 280 o swyddi parhaol.

Ond yn ôl ymgyrchwyr mi fyddai'r cynllun yn cael effaith "ddinistriol" ar yr ardal.

Mae cwmni CG Recovery, sy'n gofalu am y cynllun yn mynnu y byddai'n cynnig buddsoddiad gwerth £250m i'r ardal, ac y byddai'r cyhoedd yn cael mynediad at y parc cyhoeddus o hyd.

Blynyddoedd o ddadlau

Mae dyfodol Parc Penrhos ger tref Caergybi wedi bod yn destun dadlau ers blynyddoedd.

Yn 2016 mi gafodd caniatâd cynllunio cychwynnol ar gyfer creu parc gwyliau ei gymeradwyo gan Gyngor Môn.

Dros y degawd diwethaf mae dadlau wedi bod dros ddilysrwydd y caniatâd hwnnw, ond yn 2024 mi ddyfarnodd yr Uchel Lys yn erbyn bwriad i gynnal adolygiad barnwrol.

Mi aeth y cwmni oedd yn gyfrifol am y cynllun, The 79th Group i'r wal yn 2025, ac erbyn hyn y gweinyddwyr CG Recovery sydd wedi cyflwyno 'cais materion a gedwir yn ôl', sy'n cynnig mwy o fanylion ar y cynllun gwreiddiol, yn ogystal ag ambell newid.

Yn ôl y grŵp sy'n ymgyrchu yn erbyn y cynllun mi fyddai codi pentref gwyliau yn "ddinistriol".

Mary Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Mary Roberts mae'r safle yn amhrisiadwy ac yn cynnig cyfleoedd i deuluoedd fwynhau'r awyr agored a chymdeithasu

"Mae'n anodd rhoi mewn i eiriau sut fath o werth sydd yma, mae'n priceless", meddai Mary Roberts, un o'r rhai sydd wedi bod yn mynd i'r safle ers blynyddoedd.

"Da ni mewn coedwig ac mae o'n cefnogi gymaint o fyd natur.

"Maen nhw wedi gweithio mor galed i gael y wiwer goch yma".

Yn ôl Mary Roberts mae'r parc yn cynnig cyfleoedd i deuluoedd cyfagos fwynhau'r awyr agored, ac i gymdeithasu gyda phlant mewn oes lle mae lleihau oriau sgrîn yn bwysig.

Mae hi hefyd yn credu na fyddai cymaint o swyddi yn cael eu darparu i bobl leol.

"Mae'r cwmni yn honni y byddai'n creu 280 o swyddi, ond os 'da chi'n edrych ar feysydd carafán yn yr ardal, dwi'n meddwl fod hwnna yn overestimate.

"Dwi'm yn gweld sut allai o greu gymaint".

'Rhan o'n hanes a'n etifeddiaeth'

Un arall sydd â theimladau tebyg ydi Vanessa Owen sy'n byw gerllaw.

"Mae Penrhos yn rhan o'n hanes ni, yn rhan o'n etifeddiaeth ni ac ein bywyd ni.

"Mae bob dim yma - lan môr, coedwig, bywyd gwyllt a 'da ni 'di bod yn cerdded yma drwy bywyd fi - dros 50 mlynedd, mae'n lle i ymlacio ac y gwir ydi 'da ni eisiau i'n plant ni ac i blant nhw cael yr un profiad i fod yma."

Mae'n ategu fod y gymuned eisiau dod â'r safle dan berchnogaeth pobl leol er nad yw hynny yn bosib ar hyn o bryd.

Ymgyrchwyr yn erbyn cynlluniau parc gwyliau Penrhos
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ymgyrchwyr yn dweud y byddan nhw'n parhau i frwydro yn erbyn y cynlluniau

Yn ôl y cynlluniau diweddaraf mi fyddai 500 o gabanau yn cael eu codi yn ogystal â pharc hamdden, canolfan chwaraeon, siopau a bwytai.

Mae'r datblygwyr yn mynnu y byddai aelodau'r cyhoedd yn dal i fod â mynediad at nifer o rannau o'r parc.

Yn ôl Cyngor Môn nid yw'r cais diweddaraf yn gais cynllunio llawn.

Yn hytrach mae'n "gais materion a gedwir yn ôl a gyflwynwyd o dan y caniatâd cynllunio amlinellol a roddwyd yn flaenorol".

Cais sy'n cynnig mwy o fanylder ydy hynny, yn ogystal ag ambell newid i'r gwreiddiol fydd yn gorfod derbyn sêl bendith yr awdurdod lleol yn y pendraw.

"Er ein bod yn ymwybodol o'r diddordeb cyhoeddus sylweddol yn y cais hwn ac ar ddeall bod y safle yn cael ei farchnata ar gyfer ei werthu, mae'r rhain yn faterion sydd ar wahân i'r broses gynllunio statudol," meddai llefarydd.

"Fel yr Awdurdod Cynllunio Lleol, mae dyletswydd ar y Cyngor i asesu a phenderfynu ar y cais yn unol â deddfwriaeth a pholisïau cynllunio cyn y gwneir unrhyw benderfyniad.

"Fel rhan o'r broses honno, mae cyfle i'r cyhoedd gyflwyno eu safbwyntiau drwy'r ymgynghoriad cynllunio statudol sydd ar y gweill ar hyn o bryd a bydd yr holl sylwadau'n cael eu hystyried fel rhan o'r gwaith o asesu'r cais."

Llun artist o ddatblygiad Parc PenrhosFfynhonnell y llun, CG Recovery
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r datblygwyr yn dweud y bydd gan y cyhoedd fynediad o hyd i rannau o'r parc

Yn ôl y cwmni sy'n gyfrifol am y cynllun sef cwmni CG Recovery mae'r cais diweddara'n "gam pwysig" i'r datblygiad.

"Mae ymgynghoriad cyhoeddus wedi bod yn rhan allweddol o'r cynllun ac wrth fireinio hwnnw mae sicrwydd o fynediad hirdymor i safle Cae Glas a'r llwybr arfordirol.

"Mae'r cynllun yn cynnig cyfle gwerth £250m i danio economi Môn a chreu 280 o swyddi," meddai.

Ychwanegodd llefarydd y byddai'n cynnig cyflogaeth drwy'r flwyddyn.

Ond mae nifer fawr o ymgyrchwyr ym Môn yn galw am roi'r gorau i'r cais, gan ddweud eu bod yn benderfynol o frwydro hyd y diwedd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig