Gorsaf bŵer Môn: Mwy o amser ar gyfer gwaith sylweddol i wella ffordd

Delwedd o orsaf bŵer niwclear Gwyndod
Ffynhonnell y llun, Rolls-Royce
Disgrifiad o’r llun,

Gorsaf Bŵer Gwyndod yw enw'r orsaf bŵer niwclear newydd ger safle Wylfa ar Ynys Môn.

GanGareth Wyn Williams
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae datblygwyr sy'n gobeithio codi gorsaf niwclear newydd ar Ynys Môn wedi cael mwy o amser i gwblhau gwelliannau "mawr eu hangen" i'r ffordd sy'n cysylltu'r safle arfaethedig gyda'r A55.

Yn 2017 fe lwyddodd cwmni Horizon Nuclear Power i sicrhau caniatâd cynllunio i ledu ac ailwynebu 10 milltir o ffordd yr A5025 rhwng Y Fali a safle Wylfa.

Ond cafodd datblygiad Wylfa Newydd ei atal yn 2020 pan dynnodd Hitachi yn ôl o'r cynllun ar ôl methu â chyrraedd cytundeb ariannu gyda Llywodraeth y DU, ac ni chafodd unrhyw waith gwella ei gwblhau.

Yn dilyn tranc y cynllun hwnnw, bellach mae Great British Nuclear [GBE-N] wedi dod i gytundeb gwerth £2.5bn gyda Rolls‑Royce i ddatblygu un o'r tri adweithydd modiwlar bychan [SMR] cyntaf i'w hadeiladu yn y DU yno.

Yr wythnos diwethaf daeth cyhoeddiad mai enw'r orsaf newydd, i'w adeiladu ger yr orsaf Magnox bresennol, yw Gwyndod - sy'n deillio o'r term hynafol am dafodiaith yr ardal, Gwyndodeg.

Yr A5025 ger TregeleFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Y bwriad ydy gwella a lledu rhannau o'r A5025 rhwng y Fali a safle'r Wylfa

Gyda'r caniatâd ar gyfer y gwaith ffordd ar fin dod i ben, roedd GBE-N wedi gwneud cais i'w adnewyddu am dair blynedd arall.

Roedden nhw'n disgrifio'r gwaith fel "mawr ei angen" ac "elfen hanfodol" o'r cynllun ehangach gan y byddai'n golygu mwy o draffig yn yr ardal.

Brynhawn Mercher cafodd y cais hwnnw gefnogaeth unfrydol aelodau o bwyllgor cynllunio Cyngor Môn, gan ddilyn argymhelliad swyddogion cynllunio.

Ond dydy ffyrdd osgoi arfaethedig oedd wedi'u crybwyll yn ardaloedd Y Fali, Llanfachraeth a Chefn Coch, ddim yn rhan o'r cais presennol.

Mae adweithyddion modiwlar bychan yn gyflymach i'w hadeiladu ac yn dueddol o fod yn rhatach - gyda'r cydrannau yn cael eu llunio mewn ffatrïoedd.

Mae gobaith bydd y cynllun ym Môn yn creu 3,000 o swyddi lleol a 5,000 o swyddi ychwanegol yn genedlaethol, a bod modd cynhyrchu trydan erbyn canol y 2030au.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.