Dathlu canrif cloc mewn pentref ym Môn gan roi capsiwl amser dan glo

Cloc Gwalchmai
Disgrifiad o’r llun,

Mae cloc Gwalchmai yn nodi canrif ers ei adeiladu eleni

GanCarwyn Jones
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae pentref Gwalchmai ar Ynys Môn yn dathlu canrif union ddydd Iau, ers i gloc nodedig y pentref gael ei adeiladu.

Cafodd gwasanaeth ei gynnal i nodi'r achlysur a chynnig cyfle i gofio'r rhai o'r pentref a gollodd eu bywydau yn y rhyfeloedd byd, y rhai sydd a'u henwau ar gloc y pentref.

Fel rhan o'r achlysur, cafodd capsiwl amser llawn trysorau o'r pentref ei roi y tu mewn i'r cloc ar gyfer ei agor ymhen 100 mlynedd, yn y flwyddyn 2126.

Ymhlith y rhai oedd yn ychwanegu at y capsiwl oedd trigolyn hynaf y pentref, sy'n 101 oed.

Owen Evans
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Owen Evans ei eni cyn dadorchuddiad y cloc yn y pentref

Daeth pobl o bob oed ynghyd i gapel pentref Gwalchmai ddydd Iau i nodi canrif ers adeiladu cloc y pentref.

Ac i un aelod o'r pentref, mae'r cloc yn rhan bwysig o'r pentref.

Mae Owen Evans yn 101 oed, ac roedd yn 1 oed pan gafodd cloc y pentref ei godi.

Fel rhan o'r dathliadau, cafodd Mr Evans y cyfle i roi lluniau yn y capsiwl amser, fel person hynaf y pentref.

Dywedodd fod y garreg filltir yn "dda iawn... mae pawb yn Gwalchmai yn gwybod am y cloc yn tydi" meddai.

Cafodd y cloc ei adeiladu yn 1926 gan John Griffiths o Langefni a weithiodd hefyd ar gofebau eraill yn yr ardal.

Pentref Gwalchmai ar ddiwrnod dadorchuddio y clocFfynhonnell y llun, Cyngor Cymuned Trewalchmai
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o drigolion y pentref ar ddiwrnod dadorchuddio'r cloc yn 1926

Cododd y gymuned gyfanswm o £506 i dalu am y gofeb ac fe gafodd seremoni ei chynnal yn y pentref ar yr 2il o Orffennaf y flwyddyn honno.

Un oedd yn rhan o'r gwaith trefnu ar gyfer dathlu'r ganrif oedd Sharon Jones, Cadeirydd Cyngor Cymuned Trewalchmai.

Dywedodd: "Mi yda ni wedi penderfynu gwneud gwasanaeth... ac wedi ceisio dilyn trefn y gwasanaeth gwreiddiol [yn 1926].

"Darlleniadau ac ambell i emyn. Mae'n golygu lot i mi oherwydd digwydd bod mae gen i ewythr ar y cloc, wedi'i nodi yn fan'no."

Sharon Jones
Disgrifiad o’r llun,

Sharon Jones oedd un o'r rhai oedd yn gyfrifol am drefnu'r dathliadau yn y pentref eleni

Ychwanegodd y Cynghorydd Neville Evans, oedd hefyd yn rhan o'r diwrnod fod y dathliad yn "bwysig".

"Roedd yn benderfyniad wnaethpwyd beth amser yn ôl gan y cyngor cymuned... a bod hi'n bwysig bod ni'n dathlu fod y cloc yma wedi'i adeiladu i gofio am y rhai a syrthiodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd.

"Cafodd o'i adeiladu yn 1926, ac union i'r diwrnod heddiw, fe gafodd ei ddadorchuddio.

Teleri (chwith) a Georgia
Disgrifiad o’r llun,

Mae Teleri (chwith) a Georgia wedi mwynhau dathlu'r cloc a dysgu am ei hanes

Fel rhan o'r dathliadau, roedd rhai o ddisgyblion yr ysgol leol yng Nghwalchmai wedi cael cyfle i ychwanegu at y capsiwl amser.

Dywedodd Georgia, sydd yn 10 oed: "'Da ni wedi rhoi y capsiwl amser wrth y cloc, mae ganddo bethau ynddo fel llythyr, beiro, map o Ynys Môn.

"'Da ni wedi bod yn canu caneuon yn capel Moreiah, cân newydd sbon gan Mrs Catrin Jones o'r enw cân y cloc.

"Mae wedi bod yn rili hwyl yn canu'r caneuon newydd 'da ni wedi dysgu."

Dywedodd ei chyfaill Teleri, sy'n 10 oed eu bod wedi bod yn dysgu am hanes y cloc.

Ychwanegodd: "'Heddiw 'da ni wedi bod yn canu achos mae'r cloc wedi troi yn gant.

"'Da ni wedi bod yn dysgu am enwau pobl 'nath farw yn y Rhyfel Byd, ac wedi dysgu bod y cloc wedi costio £506."

Roedd y seremoni'n gyfle i gofio am fywydau y rhai o'r pentref a gafodd eu colli yn y rhyfeloedd byd.

Bydd y capsiwl amser yn cael ei gloi y tu mewn i'r cloc, a'r bwriad ydi ei gadw dan glo am ganrif, i drigolion y pentref yn 2126 ei agor bryd hynny.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig