Plaid Cymru'n addo mwy o fanylion gofal plant erbyn canol Gorffennaf

Plentyn yn sgwennuFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y cynnig gofal plant yn "rhoi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i bob plentyn" meddai Plaid Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi diweddariad ar y costau a'r gwaith cyflwyno cychwynnol ar gyfer ehangu gofal plant erbyn canol Gorffennaf.

Rhoddwyd pwysau ar Blaid Cymru i ddatgelu'r amserlen a chost lawn ar gyfer eu polisi gofal plant blaenllaw yn y Senedd ddydd Mercher.

Cyflwynodd Reform gynnig yn galw am fwy o fanylion ynghylch sut mae'r Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth yn bwriadu cyflwyno a thalu am ehangu gofal blynyddoedd cynnar i fabanod naw mis oed.

Roedd 39 o blaid y cynnig a 52 yn erbyn.

Ond pasiwyd gwelliant gan Blaid Cymru yn "cydnabod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi diweddariad ar y costau a'r gwaith cyflwyno cychwynnol ar gyfer ehangu gofal plant i bawb cyn toriad yr haf [canol Gorffennaf], yn unol â'r ymrwymiadau a amlinellir yng nghynllun y 100 Diwrnod Cyntaf".

Cafodd gwelliant gan Lafur ei basio yn "cydnabod pwysigrwydd gofal plant o ansawdd uchel i wella cyfleoedd bywyd plant yng Nghymru".

Dywedodd Plaid Cymru fod grŵp arbenigol wedi'i sefydlu i oruchwylio sut y bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno'n raddol.

Ar raglen Dros Frecwast fore Mercher roedd y Dirprwy Brif Weinidog Sioned Williams wedi dweud y bydd yna gyhoeddiad o fewn "wythnosau" o ran addasu cyllideb y llywodraeth a "diweddariad i'r Senedd cyn toriad yr haf" o ran cam cyntaf y cynllun gofal plant.

Dan Thomas, arweinydd Reform yng NghymruFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

"Mae pobl Cymru yn haeddu cyflawniad, nid addewidion amwys," meddai Dan Thomas, arweinydd Reform yng Nghymru

Dywedodd arweinydd Reform yng Nghymru, Dan Thomas: "Cyn yr etholiad, honnodd Plaid Cymru dro ar ôl tro fod y polisi hwn wedi'i gostio'n llawn.

"Os felly y mae, ni ddylai fod unrhyw anhawster i gyhoeddi'r ffigyrau."

Ychwanegodd bod "pobl Cymru yn haeddu cyflawniad, nid addewidion amwys a chwestiynau heb eu hateb".

Roedd ei blaid wedi cyflwyno'r cynnig i'w drafod ddydd Mercher yn galw "ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi'r costau a'r amserlen lawn ar gyfer cyflwyno eu cynnig gofal plant o fewn eu 100 diwrnod cyntaf yn y llywodraeth".

Plentyn yn lliwioFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Plaid Cymru yn addo ehangu gofal plant i 20 awr yr wythnos am 48 wythnos y flwyddyn, i blant o naw mis oed i bedair oed

Enillodd Plaid Cymru etholiad 7 Mai gan addo ehangu gofal plant i 20 awr yr wythnos am 48 wythnos y flwyddyn, i blant o naw mis oed i bedair oed.

Hyd yn hyn, nid yw'r llywodraeth wedi gallu rhoi dyddiad penodol ar gyfer pryd y bydd y polisi gofal plant am ddim yn dechrau, er ei bod wedi addo cwblhau'r cyflwyniad cyn etholiad nesaf y Senedd yn 2030.

Credir y bydd y polisi'n costio £400m y flwyddyn erbyn diwedd tymor y senedd yn 2030.

Mae Plaid Cymru wedi wynebu beirniadaeth gan Lafur ac eraill nad yw wedi nodi'n fanwl beth fyddai'n ei dorri o gyllideb Llywodraeth Cymru i dalu amdano.

Merch yn chwaraeFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Credir y bydd y polisi'n costio £400m y flwyddyn erbyn diwedd tymor y senedd yn 2030

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd yr AS Reform Llyr Powell fod angen i'r llywodraeth ddarparu ffigurau fel bod y gwrthbleidiau'n gallu dechrau'r broses o'u craffu.

"So ni'n mynd trwyddo bopeth, so ni'n dweud ma' raid i'r llywodraeth 'neud e 'fory," dywedodd, gan awgrymu bod "lot o bobl yn ofn ca'l plentyn" oherwydd pris gofal plant.

"Ni'n cytuno mae'n rhaid i ni 'neud rywbeth [ond] odi hyn y polisi gore? So fi'n siŵr eto achos so ni'n gw'bod faint ma' hyn yn mynd i gosti."

Mae'r blaid hefyd yn chwilio am sicrwydd na fyddai ariannu'r polisi'n dod o gyllid ar gyfer "iechyd neu addysg".

Sioned Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog Sioned Williams yn ymrwymo i ddiweddaru'r Senedd "fesul cam" wrth i'r llywodraeth gyflwyno'r cynllun gofal plant

Pwysleisiodd Sioned Williams fore Mercher fod y blaid yn glir o'r dechrau mai "fesul cam" y byddai cyflwyno cynllun mor "uchelgeisiol a chymhleth" a bod "angen ei chynllunio'n ofalus".

Gyda'r adnoddau a'r gefnogaeth sydd bellach ar gael i'r blaid nawr ei bod mewn grym, mae arbenigwyr nawr yn "mynd rhagddi ar frys" i werthuso gwaith modelu'r polisi a dylunio'r "gweithlu a'r seilwaith" angenrheidiol i'w "ddelifro'n effeithiol".

Mae'r llywodraeth, meddai, yn "gobeithio gwneud cyhoeddiad cynnar, ynglŷn ag ail-alinio'r gyllideb o fewn y flwyddyn ariannol bresennol, yn yr wythnosau sydd yn dod".

Ychwanegodd fod holl flaenoriaethau maniffesto'r blaid "yn dod o fewn y gyllideb sydd ar gael i ni".

"Mae teuluoedd yn haeddu eglurder a fyddan ni'n rhoi hynny cyn gynted ag y gallwn ni... y gwelliant 'dan ni wedi rhoi lawr ar gyfer y ddadl heddiw [yw] ymrwymo y bydda'i yn rhoi diweddariad i'r Senedd cyn toriad yr haf ar hynny."

'Grŵp arbenigol bellach ar waith'

Mewn datganiad blaenorol, dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Teuluoedd yng Nghymru sy'n talu'r costau gofal plant uchaf yn y DU, ac maent wedi cael eu siomi gan Lafur a oedd yn fodlon gweld y sefyllfa honno'n parhau.

"Yn y cyfamser, nid oedd Reform yn ystyried gofal plant yn ddigon o flaenoriaeth i wneud un addewid maniffesto.

"Roedd ein cynllun 100 diwrnod yn cynnwys ymrwymiad i sefydlu grŵp arbenigol i nodi'r ddarpariaeth raddol o'n cynnig gofal plant estynedig.

"Mae'r grŵp hwnnw bellach ar waith a bydd yn gweithio ochr yn ochr â'r tasglu gofal plant i oruchwylio modelu cynnar a chyflwyno'r ehangu fesul cam, a fydd yn cael ei gyflawni'n gyflym - gan helpu i leihau costau i deuluoedd, cefnogi rhieni i gael gwaith, a rhoi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i bob plentyn."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.