Gwobr cyfraniad arbennig i Dr Simon Brooks am ymchwil yn Gymraeg

Cafodd Simon Brooks ei wobrwyo mewn seremoni nos Fercher
- Cyhoeddwyd
Mae'r golygydd a'r hanesydd, Dr Simon Brooks wedi cael Gwobr Cyfraniad Arbennig am ei ymchwil academaidd Cymraeg mewn sawl maes.
Yn rhan o wobrau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol nos Fercher cafodd 10 o bobl gydnabyddiaeth am eu cyfraniad at addysg drydyddol Cymraeg a dwyieithog dros y flwyddyn ddiwethaf.
Dr Brooks sy'n cymryd y brif wobr am ei gyfraniad at ymchwil academaidd Cymraeg ym meysydd hanes, amlddiwylliannedd, theori wleidyddol a pholisi cyhoeddus.
Mae'r cyn-olygydd cylchgrawn Barn wedi ysgrifennu nifer o lyfrau yn ystod ei yrfa gyda, Pam na fu Cymru, yn cael ei enwi ar rest fer ar gyfer Llyfr Cymraeg y Flwyddyn yn 2015.
Roedd hefyd yn Gadeirydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg am gyfnod ond fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y llynedd ei fod yn "camu yn ôl" i dderbyn triniaeth canser.
"Mae cael y gydnabyddiaeth hon yn fendigedig," meddai Dr Brooks wrth i Gadeirydd y Coleg, Dr Aled Eirug, ddweud bod ei waith yn "cyfoethogi'n sylweddol safon a dyfnder y drafodaeth am ddyfodol yr iaith a bregusrwydd ein cymunedau Cymraeg".
'Pob enillydd heno yn haeddu canmoliaeth'
"Rwyf wedi cyhoeddi yn y Gymraeg yn academaidd ar hyd fy oes," meddai Dr Brooks.
"Mae'n fraint hefyd fod y gydnabyddiaeth yn dod gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
"Yn ddiweddar, rwyf wedi bod yn gweithio ym maes polisi cyhoeddus i ddatblygu syniadau i gefnogi'r Gymraeg, a grant gan y Coleg a'm rhoes ar ben y ffordd yn hynny o beth," ychwanegodd.
Yn ôl Dr Aled Eirug, mae Dr Brooks "wedi sicrhau bod ei waith academaidd, ei gyhoeddiadau, ei newyddiaduriaeth a'i ymchwil yn berthnasol i gyflwr y genedl a'i phobl".
"Mae'n pontio'n fedrus rhwng y byd academaidd a'r maes polisi ymarferol," ychwanegodd.
"Diolch iddo, mae'n gwbl haeddiannol o dderbyn gwobr y Coleg am ei gyfraniad arbennig ac unigryw."

Dywedodd Lleucu Wyn Pughe bod "drysau di-ri'" yn agor drwy ddysgu Cymraeg
Ymhlith yr enillwyr eraill ar y noson roedd athro chweched dosbarth ym Machynlleth.
Fe enillodd yr athrawes Gymraeg, Lleucu Wyn Pughe o Ysgol Bro Hyddgen y Wobr Annog Disgyblion am ei gwaith yn annog disgyblion i barhau i astudio'r Gymraeg.
"Mae'n fraint," meddai Lleucu. "Mae drysau di-ri' yn agor wrth astudio'r Gymraeg a gall y pwnc arwain dysgwyr at ystod eang o yrfa."
Enillodd Dr Philip Davies o Brifysgol Bangor y Wobr Iechyd a Gofal am arwain y prosiect, Mwy na Geiriau: Y Gymraeg fel Sgil Glinigol.
Nod y prosiect yw sicrhau bod myfyrwyr yn gallu datblygu eu sgiliau Cymraeg yn ystod eu cwrs Meddygaeth.
Dywedodd Dr Davies ei fod yn "falch o'r wobr oherwydd pwysigrwydd y Gymraeg yn y sector iechyd a'n bod ni wedi creu rhywbeth sydd am wneud gwahaniaeth ar lawr gwlad".
Yn ôl Prif Weithredwr y Coleg, Dr Ioan Matthews mae "pob enillydd heno yn haeddu canmoliaeth a chydnabyddiaeth".
"Maent yn codi proffil a statws y Gymraeg yn eu sefydliadau ac yn arddel y safonau uchaf.
"Hoffwn estyn fy niolch a llongyfarchiadau cynhesaf i Dr Simon Brooks am ei gyfraniad arbennig, ei ymroddiad diwyd, a'i gefnogaeth barhaus i waith y Coleg."
Y rhestr lawn:
Gwobrau addysgwyr:
Gwobr Annog Disgyblion - Lleucu Wyn Pughe, Ysgol Bro Hyddgen.
Gwobr Dathlu'r Darlithydd – Awel Wynne-Williams , Prifysgol Wrecsam.
Gwobr Addysgwr Arloesol – Gwyn Arfon Williams, Grwp Llandrillo Menai.
Gwobr Cyfoethogi Profiad y Dysgwr / Prentis – Kath Morgan, Coleg y Cymoedd.
Gwobr Iechyd a Gofal – Dr Phil Davies, Prifysgol Bangor.
Gwobr Cyfraniad Arbennig – Dr Simon Brooks.
Gwobrau myfyrwyr/prentisiaid:
Gwobr Merêd – Emily Evans, Prifysgol Abertawe.
Gwobr Llais y Gymraeg – Dice Suter, Grwp Colegau NPTC.
Gwobr Talent Newydd er cof am Gareth Pierce – Hanna Griffiths, Coleg Sir Benfro/ Ysbyty Glangwili.
Gwobr Ysbrydoli Eraill – Cai Williams, Ysgol Dyffryn Conwy.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mai 2025

- Cyhoeddwyd28 Mai

- Cyhoeddwyd2 Medi 2025
