Achos o Hepatitis A wedi'i gysylltu ag ysgol gynradd

Mae un achos o Hepatitis A sydd â chysylltiad ag Ysgol Gynradd High Street, Y Barri wedi cael ei gadarnhau
- Cyhoeddwyd
Mae pobl wedi gorfod cael triniaeth ysbyty wedi i achosion o lid yr afu ddod i'r amlwg ym Mro Morgannwg.
Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) bod un achos wedi ei gadarnhau o Hepatitis A sydd â chysylltiad ag Ysgol Gynradd High Street yn Y Barri, a bod ymholiadau'n cael eu cynnal.
Dydy cyfanswm yr achosion heb ei gadarnhau, ond mae'n llai na 10, medd ICC.
Mae yna apêl i drigolion helpu atal lledaeniad yr haint ac i gael brechlyn os ydyn nhw'n derbyn gwahoddiad.
Dywed ICC eu bod wedi nodi pobl sydd o bosib wedi dod i gysylltiad â'r haint ac wedi cynnig i'w brechu.
Pwysigrwydd hylendid da
Maen nhw wedi pwysleisio pwysigrwydd golchi dwylo a chadw ystafelloedd ymolchi a cheginau'n l'an, gan rybuddio bod risg o ledu'r haint yn enwedig ar ôl bod i'r tŷ bach a chyn paratoi neu fwyta bwyd.
Mae symptomau Hepatitis yn cynnwys:
Blinder anarferol neu deimlo'n sâl yn gyffredinol;
Tymheredd uchel;
Dim awydd bwyta a theimlo'n gyfoglyd;
Poen neu deimlad anghyfforddus yn rhan uchaf ochr dde'r abdomen;
Pasio dŵr tywyllach na'r arfer neu garthion lliw golau;
Y croen neu wyn y llygaid yn melynu;
Croen sy'n cosi.
Yn ôl ICC gall rhai - plant ifanc yn arbennig - fod heb symptomau o gwbl, neu symptomau ysgafn yn unig.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.