Gwobrau Tir na n-Og: Pa lyfrau sydd ar y rhestr fer i 2026?

Gwobrau Tir na n-Og yw'r gwobrau hynaf ar gyfer llenyddiaeth plant yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae rhestrau byrion Gwobrau Tir na n-Og 2026 wedi'u cyhoeddi wrth i'r gwobrau ddathlu 50 mlynedd.
Mae'r gwobrau'n dathlu'r gorau o lyfrau plant a phobl ifanc Cymru, neu lyfrau am Gymru.
Gwobrau Tir na n-Og yw'r gwobrau hynaf ar gyfer llenyddiaeth plant yng Nghymru, ac eleni mae'r gwobrau'n nodi hanner canrif ers eu sefydlu yn 1976.
Mae tri chategori i'r gwobrau, sef llyfrau Cymraeg cynradd ac uwchradd, ynghyd â llyfrau Saesneg â chefndir Cymreig.
Dywedodd y trefnwyr fod ansawdd y ceisiadau mor uchel eleni fel bod pedwar llyfr wedi cyrraedd y rhestrau byrion yn y categorïau Cymraeg yn hytrach na'r tri arferol.
Rhestr fer cynradd
Cyfri Defaid gan Enlli Lewis, darluniwyd gan Gareth Brown (Atebol)
Gerwyn Gwrthod a'r Llyfr Does Neb yn Cael ei Ddarllen gan Siôn Tomos Owen, darluniwyd gan Siôn Tomos Owen (Atebol)
Am Gymro gan Medi Jones-Jackson, darluniwyd gan Telor Gwyn (Y Lolfa)
Llyfr Sgrap Macs Sion gan Mari Lovgreen, darluniwyd gan Cai Tudur (Y Lolfa)
Rhestr fer uwchradd
Y Garthen gan Sioned Wyn Roberts (Atebol)
Anfarwol gan Rebecca Roberts (Gwasg Carreg Gwalch)
Gwen ac Arianrhod gan Lleucu Gwenllian, darluniwyd gan Lleucu Gwenllian (Gwasg Carreg Gwalch)
Y Cae Ras gan Manon Steffan Ros (Y Lolfa)
Rhestr fer Saesneg
Major and Mynah: Project Puffin gan Karen Owen, darluniwyd gan Louise Forshaw (Firefly)
The Wicked Lies of Habren Faire gan Anna Fiteni (Electric Monkey)
10 Fascinating Stories from Welsh History (that you'll want to talk about) gan Siân Lewis a Charlotte Williams, darluniwyd gan Kyle Legall (Rily)
Bob blwyddyn mae paneli annibynnol yn dewis y rhestrau byrion a'r enillwyr ar draws y categorïau.
Y beirniaid ar y panel Cymraeg eleni oedd Rhys Dilwyn Jenkins (cadeirydd), Helen Jones, Malachy Edwards a Loti Glyn, a'r beirniaid ar y panel Saesneg oedd Karen Gemma Brewer (cadeirydd), Kate Wynne, Ben James a Molly Tidy.
Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, Helgard Krause, ei bod yn "bleser pur cyhoeddi rhestrau byrion o ansawdd mor uchel yn y flwyddyn arbennig hon".
Eleni hefyd bydd cyfle i blant a phobl ifanc sy'n cymryd rhan yng nghynllun cysgodi Tir na n-Og mewn ysgolion a llyfrgelloedd ledled Cymru ddewis eu henillwyr eu hunain trwy Wobr Dewis y Darllenwyr.
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn yr haf, gyda'r categorïau Cymraeg yn cael eu gwobrwyo yn Eisteddfod yr Urdd fis Mai.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Chwefror

- Cyhoeddwyd19 Mawrth

- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2025
