Dyn 22 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad yn y gorllewin

Yr A4075 rhwng Yerbeston a Phont CanastonFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw'r dyn wedi gwrthdrawiad ar yr A4075 rhwng Yerbeston a Phont Canaston

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 22 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng beic modur a char yn Sir Benfro.

Bu farw'r gyrrwr beic modur Yamaha gwyn wedi gwrthdrawiad gyda char Kia Sorento gwyn ar yr A4075 rhwng Yerbeston a Phont Canaston tua 18:20 ddydd Mercher.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod y dyn wedi marw ar ôl cael ei gludo i'r ysbyty.

Cafodd dynes 22 oed, a oedd ar gefn y beic modur, ei chludo i'r ysbyty hefyd.

Ni wnaeth gyrrwr y Kia Sorento, dyn 60 oed, ddioddef unrhyw anafiadau.

Mae'r llu yn apelio ar dystion neu unrhyw un a oedd yn gyrru ar y ffordd tuag amser y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig